Portal talk:Cy/Arddull cyfieithu
Jump to navigation
Jump to search
Arddull Iaith Botymau, Dolenni
Mae'r defnydd o'r berfenw wedi'i sefydlu erbyn hyn fel yr arferiad ar fotymau a dolenni mewn systemau, meddalwedd a gwefannau yn y Gymraeg. Er bod rhai botymau a dolenni yn gweithredu fel gorchymyn i gyfrifiadur, rhaglen neu wefan, maent hefyd yn cynnig dewis i'r defnyddiwr. Yma ac ar Wicipedia, er enghraifft, er eu bod yn orchmynion i'r gwefan, y defnyddiwr sydd wir yn golygu, yn cadw ac yn gwylio tudalennau, e.e. islaw'r ffrâm golygu, mae'r botwm yn gywir: 'Cadw'r dudalen' a'r swigen drosto yn darllen 'Cadwch eich newidiadau'.
Dyma'r fath o newidiadau dw i'n awgrymu: Cadwer -> Cadw Gwylier y dudalen hon -> Gwylio'r dudalen hon Ehanger -> Ehangu