PLURAL

Wedi gosod is-dudalen newydd i'r porth Cymraeg, yn trafod PLURAL - [1]. Mae nodiadau tebyg eisoes ar Wicipedia, ac ar dudalen sgwrs y porth Cymraeg. Gofynnwch os nad wyf wedi ysgrifennu'r nodiadau'n ddigon clir.

Lloffiwr20:26, 26 July 2010

Diolch. Dwi'n drysu efo'r negeseuon 'ma, felly gadawa i nhw i ti a chyfieithwyr eraill! :D

Xxglennxx20:08, 27 July 2010

Roedd yn hen bryd dechrau rhoi trefn ar y porth Cymraeg, felly diolch am fy ysgogi i wneud hynny. Mae'n cymryd amser i arfer â chyfieithu negeseuon, mae'n wir, ac mae'n waith sy'n blino dyn yn rhwydd. Os daw chwant arnat ti roi cynnig arall arni, byddaf yn falch cael dy gwmni yma eto.

Lloffiwr21:58, 27 July 2010

O na, dwi'n dal i gyfieithu! Fi'n mynd i ad fe (sef y negeseuon plural) i bobl eraill sydd â mwy o brofiad na finnau :) O na, ti ddim wedi cael gwared â fi eto, haha!

Xxglennxx23:33, 28 July 2010

Wedi diweddaru'r negeseuon gyda lluosog ynddynt ar yr Upload Wizard. wedi cymryd hydoedd oherwydd braidd yn brysur.

Lloffiwr14:45, 14 November 2010