MediaWiki:Prefswitch-main/cy
| ||
| ||
|
Mae Tîm Sefydliad Wikimedia ar gyfer Profiadau Defnyddwyr wedi bod yn cydweithio gyda gwrifoddolwyr o'r gymuned i wneud pethau'n haws i chi. Rydym am rannu rhai gwelliannau gyda chi, gan gynnwys golwg newydd, naws gwahanol a nodweddion golygu symlach. Bwriad y newidiadau yw ei gwneud yn haws i gyfranwyr newydd fwrw ati. Maent wedi eu seilio ar y gwaith arbrofi ar ddefnyddioldeb a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn a fu. Mae gwella defnyddioldeb ein prosiectau yn flaenoriaeth i Sefydliad Wikimedia, a byddwn yn rhannu rhagor o ddiweddariadau eto. Am fwy o fanylion, ewch i flog Wikimedia.
Dyma'r hyn sydd wedi newid
- Llywio: Rydym wedi gwella'r llywio ar gyfer darllen tudalennau a'u golygu. Yn awr, mae'n haws gweld o'r tabiau ar frig tudalen p'un ai'r dudalen neu ei thudalen drafod sydd o'ch blaen, a ph'un ai ydych yn darllen neu yn golygu.
- Gwelliannau i'r bar offer golygu: Rydym wedi ad-drefnu'r bar offer golygu i'w wneud yn haws i'w ddefnyddio. Nawr, mae fformatio tudalennau yn symlach ac yn haws ei ddeall.
- Dewin cysylltu: Teclyn hawdd i'w ddefnyddio yn eich galluogi i ychwanegu cysylltau i dudalennau eraill ar y wici yn ogystal â chysylltau i safleoedd allanol.
- Gwelliannau wrth chwilio: Rydym wedi gwella'r awgrymiadau chwilio i gael hyd i'r nod yn gyflymach.
- Nodweddion newydd eraill: Rydym hefyd wedi gwneud dewin tablau i'w gwneud yn haws llunio tablau, ac wedi gwneud teclyn 'canfod a disodli' i'ch cynorthwyo wrth i chi olygu.
- Logo Wicipedia: Rydym wedi diweddaru ein logo. Darllenwch fwy ar flog Wikimedia.