Portal:Cy/Arddull cyfieithu

From translatewiki.net

Arddull cyfieithu

WiciMedia

Yn gyffredinol mae arddull ysgrifennu negeseuon WiciMedia yn dilyn y canllaw ar ysgrifennu yn Gymraeg ar Arddull ar Wicipedia. Rydym yn ceisio cadw at eirfa ac arddull sydd yn gyson ar WiciMedia drwyddi draw.

Prosiectau eraill

Mae'r un egwyddorion yn perthyn i baratoi negeseuon ar y prosiectau i gyd ag sy'n perthyn i WiciMedia, ond nid oes rhaid i'r prosiectau ddilyn yr un confensiynau a'i gilydd (e.e. cenedl tudalen).

Botymau gorchymyn y cyfrifiadur

Defnyddir ffurf Gorchymyn Amhersonol y ferf ar y botymau sy'n gorchymyn y cyfrifiadur. Pan fydd y cyfrifiadur yn gorchymyn y darllennydd neu yn ei gynghori defnyddir Gorchymyn Ffurfiol. Ymhobman arall lle y defnyddia'r Saesneg y ffurf gorchmynnol mae'r Gymraeg yn defnyddio berfenw, e.e. cysylltau, penawdau blychau deialog.

Cenedl geiriau

Dyma restr o'r cenedl a ddewiswyd i dermau sydd yn gallu bod yn wrywaidd neu'n fenywaidd:

Prosiect Enw Cenedl
MediaWiki tudalen benywaidd
MediaWiki munud gwrywaidd

Os y defnyddiwch chi derm sydd yn gallu bod yn fenywaidd neu'n wrywaidd am y tro cyntaf ar unrhyw brosiect, byddwch gystal â'i ychwanegu at y rhestr.