Portal talk:Cy/Arddull cyfieithu
Appearance
Latest comment: 10 years ago by Lloffiwr in topic Arddull Iaith Botymau, Dolenni
Arddull Iaith Botymau, Dolenni
Mae'r defnydd o'r berfenw wedi'i sefydlu erbyn hyn fel yr arferiad ar fotymau a dolenni mewn systemau, meddalwedd a gwefannau yn y Gymraeg. Er bod rhai botymau a dolenni yn gweithredu fel gorchymyn i gyfrifiadur, rhaglen neu wefan, maent hefyd yn cynnig dewis i'r defnyddiwr. Yma ac ar Wicipedia, er enghraifft, er eu bod yn orchmynion i'r gwefan, y defnyddiwr sydd wir yn golygu, yn cadw ac yn gwylio tudalennau, e.e. islaw'r ffrâm golygu, mae'r botwm yn gywir: 'Cadw'r dudalen' a'r swigen drosto yn darllen 'Cadwch eich newidiadau'.
Dyma'r fath o newidiadau dw i'n awgrymu:
- Cadwer -> Cadw
- Gwylier y dudalen hon -> Gwylio'r dudalen hon
- Ehanger -> Ehangu
- Rhodder heibio -> Diddymu neu Canslo
—Preceding unsigned comment added by Cymrodor (talk • contributions) 16 December 2013
Trafod wedi dechrau ar Wicipedia. Lloffiwr (talk) 18:06, 5 January 2014 (UTC)