Bathu termau am y grwpiau

Bathu termau am y grwpiau

Rwyn gweld dy fod ti wedi bod yn bathu termau ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ar MediaWiki, Xxglennxx. Pan wnes i fynd ati i fathu termau ar gyfer rhai grwpiau sbel yn ôl, fe wnes i osod y cynigion ar dudalen Cymorth iaith Wicipedia, fel bod cyfle gan gymuned Wicipedia i'w trafod a'u derbyn. Wedi dweud hyn, efallai na chei di ddim sylwadau ar y cynigion! Beth bynnag, wrth ychwanegu'r cyfieithiadau newydd ar translatewiki.net, bydd angen ychwanegu'r termau at Eirfa Wicipedia hefyd. Gelli di fynd ati i wneud hyn os gwel di'n dda?

Lloffiwr22:20, 1 August 2010