Portal talk:Cy/LiquidThreads

From translatewiki.net
This page contains archived discussions using the Liquid Threads extension. You can still participate in existing conversations, but you should start new conversations using the new discussion tools on the main talk page.

Dyma'r dudalen drafod ar gyfer y rhyngwyneb Cymraeg - cy

Cysylltiadau/Links

I'w gwneud/To do

  • Dechrau tudalen i drafod negeseuon ar Wicipedia?
  • Adolygu'r extensions

PLURAL

The possibilities needed are:

  • 0 – to negate the whole sentence
  • 1
  • 2
  • 3
  • 6
  • 4,5, >=7

An example of the above is the message watchlistdetails (with 6 different outputs):

{{PLURAL: $1|Ddim yn gwylio unrhyw dudalen|Yn gwylio $1 dudalen|Yn gwylio $1 dudalen|Yn gwylio $1 tudalen|Yn gwylio $1 thudalen|Yn gwylio $1 tudalen}} heb gynnwys tudalennau sgwrs.

This question has been posted on User_talk:Nike. Lloffiwr 13:57, 6 October 2007 (UTC)

Increase of maximum outputs for PLURAL to 6 requested at Support. Lloffiwr 12:34, 13 January 2008 (UTC) Change of php file completed February 2008.

GRAMMAR FOR INITIAL MUTATION

In Welsh the first letter (which is either 1 or 2 characters) can change depending on either the preceding word or the syntax. So far, this has not been critical on Welsh Wikipedia because titles of websites do not mutate, you can choose not to mutate personal names, and most other variables (month, namespace) do not happen to have a syntax which needs mutating. I have reviewed all the messages on Welsh Wikipedia and haven't found one which would need a GRAMMAR function to work. If anybody finds a magic word or a message being used somewhere which does need mutation then please note it here so we can discuss whether we need GRAMMAR for initial mutations.

For future reference: If at some point we were to decide that we need GRAMMAR for initial mutations then the logic rules to produce it are:

(for the 4 grammatical forms: Cysefin, meddal, trwynol and llaes)

Treiglad cysefin

No change for this – it is the root (or radical) form

Treiglad meddal

  1. If first character of the word is C,c it changes to G,g
  2. If first character is P,p it changes to B,b
  3. If first character is T,t it changes to D,d
  4. If first character is G,g then omit the G,g
  5. If first character is B,b it changes to F,f
  6. If first character is D,d it changes to Dd,dd
  7. If first character is Ll,ll it changes to L,l
  8. If first character is M,m it changes to F,f
  9. If first two characters are Rh,rh it changes to R,r

Treiglad trwynol

  1. If first character of the word is C,c it changes to Ngh,ngh
  2. If first character is P,p it changes to Mh,mh
  3. If first character is T,t it changes to Nh,nh
  4. If first character is G,g it changes to Ng,ng
  5. If first character is B,b it changes to M,m
  6. If first character is D,d it changes to N,n

Treiglad llaes

  1. If first character of the word is C,c it changes to Ch,ch
  2. If first character is P,p it changes to Ph,ph
  3. If first character is T,t it changes to Th,th

These rules work in the majority of cases.

Conclusion: At present no need to create GRAMMAR for initial mutations. Lloffiwr 13:57, 6 October 2007 (UTC)

Contents

Thread titleRepliesLast modified
Rhwystro neu flocio011:05, 13 October 2013
Estyniad Proofread Page021:42, 14 September 2013
Manylion uwchlwytho lluniau823:14, 23 May 2011
Bathu termau am y grwpiau022:20, 1 August 2010

Rhwystro neu flocio

Cafwyd trafodaeth am gysoni'r term rhwystro/blocio ar WPCY.

Lloffiwr (talk)11:05, 13 October 2013

Estyniad Proofread Page

Ar wicidestun mae'r parth Index wedi cael ei drosi i Indecs yn Gymraeg. Yn yr estyniad Proofread Page rwyf wedi trosi 'Index' yn 'Mynegai' a 'Mynegeio'. Oes rhaid cysoni?

Lloffiwr (talk)21:42, 14 September 2013

Manylion uwchlwytho lluniau

Helo. Dwi wedi bod yn meddwl am sut mae osgoi pobl yn uwchlwytho delweddi/ffeiliau i cy ac anwybyddu cynnwys manylion y ffeil. Fel y gwyddem, mae hyn yn annerbyniol a gall dorri hawlfraint Wicipedia. Felly, dwi wedi bod yn chwilio am sut mae cael rhyw fath o ddewin uwchlwytho fel sydd gan de fan hyn, lle gwelir ein nodyn Gwybodaeth. A oes modd cael y wybodaeth yn y blwch yn barod?!

Xxglennxx16:19, 9 May 2011

Pan driais i wneud dewin tebyg i'r un ar y wici Almaeneg rhai blynyddoedd yn ôl fe fethais ddeall sut mae cael y testun wici i ymddangos yn y blwch. Roedd y dechnoleg i wneud hynny yn weddol o newydd ar y pryd ac roeddwn yn amau nad oedd modd ei wneud ar y Wicipedia Cymraeg y pryd hynny (mae technoleg newydd yn cyrraedd y wicis mawrion ynghynt na'r rhai bychain).

Gan fod modd uwchlwytho lluniau nad ydynt yn gwbl rhydd ar Wicipedia, yn ôl ein polisi, bydd angen llinell ychwanegol arnom yn y blwch yn rhoi cyfiawnhad dros lwytho llun nag ydyw'n gwbl rhydd. Neu fe allem wneud yr un peth a'r Wikipedia Saesneg sy'n neidio i dudalen arall i drafod y cyfiawnhad. Ond methais ddeall sut mae gwneud y naid honno chwaith!

Wyt ti wedi deall sut mae cael y system uwchlwytho i weithio fel yr un Almaeneg?

Fe wnaf olygu'r nodyn "Gwybodaeth" yr wyt wedi ysgrifennu, rhywbryd wythnos nesaf neu'r wythnos wedyn - ni fyddaf adref am beth o wythnos nesaf.

Lloffiwr20:54, 15 May 2011

Wel, dwi wedi gadael neges ar de fan hyn, ac mae rhywun wedi awgrymu inni ofyn am gymorth yn Bugzilla. Dwi wedi chwilio am y trywydd cysylltiedig yn de, ond methu ffeindio sut mae gwneud fe...

Gobeithio y gallwn ni ddatrys y peth yn fuan - mae'n heb bryd inni dynhau ein polisïau uwchlwytho ar cy, na chytunet?

Xxglennxx23:32, 15 May 2011

Wrth edrych ar god y dudalen uwchlwytho ffeiliau Almaeneg (gweler uchod), dwi wedi dod o hyd i ddau ddarn o god, sef wpUploadDescription a mw-htmlform-description, ond dwi ddim yn gallu eu ffeindio yn y teclyn cyfieithu! Ond dwi'n credu mai nhw yw'r codau i gyfieithu!

Xxglennxx23:42, 15 May 2011

Rwyn credu y dylet ti allu holi am gymorth gyda pethau technegol fel hyn gan y "Small Wiki Monitoring Team". Neu gallet fynd i Chatzilla a siarad ar y pryd gyda rhai o'r datblygwyr.

Unwaith bod ffurflen uwchlwytho pwrpasol gennym yna fe fydd llawer yn haws gweithredu'r polisi.

Lloffiwr12:32, 16 May 2011
 

Os ei di i'r rhestr negeseuon ar de fe weli di'r neges uploadtext wedi ei restri, a'r cynnwys yw {{MediaWikiUploadtext/real|$1}}. Os bwysi di ar "Uploadtext" fe ei di at MediaWiki:Uploadtext ond os bwysi di ar "Diskussion" fe ei di at dudalen sgwrs MediaWiki:Uploadtext/real. Dwi ddim yn gwybod beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddwy dudalen, ond mae'n ymddangos bod angen defnyddio'r is-dudalen /real i gael y peth i weithio.

Lloffiwr21:51, 16 May 2011
 

Mae'n bosib mai gadael neges ar Bugzilla fydd raid, os oes rhyw estyniad angen ei osod yma cyn i na allu cael y dewin i weithio'n debyg i'r un ar de.

Lloffiwr20:51, 16 May 2011

Helo. Ti sy'n iawn wrth ddod o'i hyd, ac felly dwi wedi gadael neges ar Bugzilla fan hyn. Gobeithio rydym yn datrys hyn yn fuan - dim ond angen edrych ar y categori hwn i weld maint y problem - a hynny ers mis Ebrill cynnar dwi'n credu! Duw a wyr faint o ddelweddi/ffeiliau eraill sydd heb fanylion!

Xxglennxx21:05, 17 May 2011
 

Mae hi wedi'i datrys! Cer i Arbennig:Upload i weld! OK, os wyt ti eisiau newid pethau, y ffeiliau perthnasol ydy MediaWici:Uploadtext sy'n dangos y testun efo baneri oren a glas ayyb, a MediaWici:Onlyifuploading.js, sy'n dangos y paramedrau. Eto, mae'r holl wybodaeth (yn Saesneg yn anffodus) yma ar Bugzilla.

Xxglennxx23:14, 23 May 2011
 
 
 
 

Bathu termau am y grwpiau

Rwyn gweld dy fod ti wedi bod yn bathu termau ar gyfer y gwahanol grwpiau o ddefnyddwyr ar MediaWiki, Xxglennxx. Pan wnes i fynd ati i fathu termau ar gyfer rhai grwpiau sbel yn ôl, fe wnes i osod y cynigion ar dudalen Cymorth iaith Wicipedia, fel bod cyfle gan gymuned Wicipedia i'w trafod a'u derbyn. Wedi dweud hyn, efallai na chei di ddim sylwadau ar y cynigion! Beth bynnag, wrth ychwanegu'r cyfieithiadau newydd ar translatewiki.net, bydd angen ychwanegu'r termau at Eirfa Wicipedia hefyd. Gelli di fynd ati i wneud hyn os gwel di'n dda?

Lloffiwr22:20, 1 August 2010