Croeso

Da gweld dau gyfieithydd newydd yn ymuno yn yr un mis. Rwyf wedi altro un neges gennych oherwydd ei fod wedi ei farcio'n !!FUZZY!! - mae hynny'n golygu bod rhywbeth o'i le arno - MediaWiki:Configure-desc/cy. Y broblem oedd bod google yn mynnu cyfieithu pob dim, gan gynnwys y cysylltau ag ati sydd â chystrawen wici ynddynt. Os am gopio o'r cyfieithiad google, rhaid gofalu bod y gystrawen wici yn aros yr un fath â'r gwreiddiol. Rhywbeth i sylw arno yn y dyfodol!

Allech chi ychwanegu'ch enw at restr y cyfieithwyr ar waelod tudalen Porth y Gymraeg - y cyswllt yn y panel llywio?

Lloffiwr22:20, 13 July 2010