Geiriadur Cymraeg
Appearance
From User talk:Jay99
Rwyf wedi bwriadu sôn ers meitin ond heb gael cyfle. Fe sonioch eich bod yn byw ym Mharis. Felly rwyn amau bod cael gafael ar eiriaduron Cymraeg a deunydd cyfieithu arall yn dipyn o broblem. Ydych chi'n gwybod am 'Cysgeir' - geiriadur cynhwysfawr ar-lein? Mae hwnnw ar gael oddi wrth Ganolfan Bedwyr am bris (ddim yn gwybod faint). Mae tipyn o gyngor a hyfforddiant i'w gael ar eu gwefan nhw hefyd, yn rhad ac am ddim. Gobeithiaf y cewch gyfle i ail-gydio yn y cyfieithu, er ei fod wrth gwrs yn waith diflas o'i gymharu ag ysgrifennu erthyglau ar Wicipedia. Yn gobeithio bod y gwaith dysgu Ffrangeg, Sbaeneg ac Eidaleg wrth eich bodd.