Steil cyfieithu

Steil cyfieithu

Weithiau rydych wedi newid cyfieithiad rhydd yn ôl at gyfieithiad agosach at y gwreiddiol, megis gyda MediaWiki:Tog-usenewrc/cy&action=historysubmit&diff=2179944&oldid=1195753. Mae nhw'n argymell gwneud pethau mor ddealladwy a phosibl, ond heb wneud y cyfieithiad yn berthnasol i rai wiciau yn unig, na newid y cystrawen wici. Gwell trafod yn o fuan felly, mater steil y cyfieithiad Cymraeg, fel ein bod yn cytuno ar ffordd o fynd ati fan hyn. Rhaid dweud, byddaf yn falch o gael barn arall ar rai o'r cyfieithiadau, i gael sicrhau eu bod yn ddealladwy.

Yn yr enghraifft uchod, felly, ydych chi'n meddwl bod ystyr y neges nawr yn ddigon clir i'r darllenwyr? Mae mantais mewn bod yn fyr, yn sicr, ac rwyn cymryd mae dyna pam mae'r negeseuon Saesneg mor fyr, ond dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod hyn yn gweithio yn Gymraeg.

Lloffiwr12:58, 14 July 2010

Helo! Y rheswm gwnes i newid yr uchod, er enghraifft, oedd achos ei fod yn cynnwys collnodau yn y Gymraeg, ond nid yn y Saesneg. Nid oedd yn cynnwys prif-lythyren yn y Saesneg ychwaith, ac o'm meddwl i, mae "fersiwn" yn air gwrywaidd?

Ydw, dwi'n meddwl ei fod yn glir. Pe rydym yn cynnwys "fersiwn gwell," fydda i'n cyfieithu hynny i olygu "a better version" neu "advanced version." Nid yw'r blaenorol yn cyd-fynd â'r Saesneg, neu gyfleu hyd yn oed yr un neges, ac efo'r llall, siŵr o fyd y deallir y neges gyfredol wrth feddwl am y gair "advanced" efo "gwell."

Dwi'n cytuno â chi ar y pwynt arall - efallai bydd angen ehangu testun weithiau arnom, ond nid gyda'r uchod, er enghraifft.

Xxglennxx23:36, 14 July 2010

Wedi edrych ar y neges fel ag y mae'n ymddangos yn y rhyngwyneb, ac yn gweld bod digon o wybodaeth yn y cyd-destun i wneud yr ystyr yn eglur - petawn i hanner call byddwn wedi edrych arno yn y lle cyntaf! Gallwch fy ngalw'n 'ti', gyda llaw, os yr hoffech.

Lloffiwr20:18, 18 July 2010

LOL. Sut wyt ti'n gallu edrych arnyn nhw? Fasai hynny o gymorth imi yn hun a dweud y gwir! Yr un peth iti hefyd - galwa fi'n "ti" (neu 'chdi' os rwyt yn dod o'r Gogledd, ha).

Xxglennxx23:29, 18 July 2010

Rhyfedd gweld lol mewn neges Gymraeg.....

Dydw i ddim yn gallu defnyddio'r wiciau arbrofol y mae rhai o'r datblygwyr yn eu defnyddio. Dim ond dyfalu lle y byddai dyn yn debygol o weld y neges ydw i. Weithiau mae teitl y neges yn rhoi dyn ar ben ffordd. Neu weithiau mae un o'r cyfieithwyr wedi cynnwys cyswllt at y dudalen pwrpasol yn y nodiadau ar y neges, neu wedi llwytho ciplun ohoni. Os wyt ti'n digwydd bod yn gwybod lle neu phryd mae rhyw neges yn ymddangos, sydd ddim yn amlwg o'r teitl, gelli ychwanegu'r wybodaeth at y nodiadau ar dudalen qqq y neges. Mae pawb sy'n fodlon gwneud yn gallu dechrau ychwanegu at y tudalennau hyn ar ôl dod yn gyfarwydd â chyfieithu yma.

Mae'r cyswllt at y dudalen 'dewisiadau' (tab y newidiadau diweddar) yn y nodiadau (information about message.....) ar y neges uchod - gweler [1].

Lloffiwr12:26, 19 July 2010

Ah iawn, dim problem. Ie, gwnaf :) Fyset ti'n meddwl fysai Wikipedia yn gwneud hynny ta waith!

Xxglennxx20:06, 27 July 2010

Cyfarchion o Aberystwyth. Wedi ysgrifennu rhai nodiadau ar gyfieithu i'r Gymraeg, ar gyfer WikiMedia yn bennaf. Wedi eu gosod ar is-dudalennau i borth y Gymraeg. Gallwn ychwanegu atynt pan fydd angen.

Lloffiwr21:12, 5 August 2010