Steil cyfieithu
Helo! Y rheswm gwnes i newid yr uchod, er enghraifft, oedd achos ei fod yn cynnwys collnodau yn y Gymraeg, ond nid yn y Saesneg. Nid oedd yn cynnwys prif-lythyren yn y Saesneg ychwaith, ac o'm meddwl i, mae "fersiwn" yn air gwrywaidd?
Ydw, dwi'n meddwl ei fod yn glir. Pe rydym yn cynnwys "fersiwn gwell," fydda i'n cyfieithu hynny i olygu "a better version" neu "advanced version." Nid yw'r blaenorol yn cyd-fynd â'r Saesneg, neu gyfleu hyd yn oed yr un neges, ac efo'r llall, siŵr o fyd y deallir y neges gyfredol wrth feddwl am y gair "advanced" efo "gwell."
Dwi'n cytuno â chi ar y pwynt arall - efallai bydd angen ehangu testun weithiau arnom, ond nid gyda'r uchod, er enghraifft.
Wedi edrych ar y neges fel ag y mae'n ymddangos yn y rhyngwyneb, ac yn gweld bod digon o wybodaeth yn y cyd-destun i wneud yr ystyr yn eglur - petawn i hanner call byddwn wedi edrych arno yn y lle cyntaf! Gallwch fy ngalw'n 'ti', gyda llaw, os yr hoffech.
LOL. Sut wyt ti'n gallu edrych arnyn nhw? Fasai hynny o gymorth imi yn hun a dweud y gwir! Yr un peth iti hefyd - galwa fi'n "ti" (neu 'chdi' os rwyt yn dod o'r Gogledd, ha).
Rhyfedd gweld lol mewn neges Gymraeg.....
Dydw i ddim yn gallu defnyddio'r wiciau arbrofol y mae rhai o'r datblygwyr yn eu defnyddio. Dim ond dyfalu lle y byddai dyn yn debygol o weld y neges ydw i. Weithiau mae teitl y neges yn rhoi dyn ar ben ffordd. Neu weithiau mae un o'r cyfieithwyr wedi cynnwys cyswllt at y dudalen pwrpasol yn y nodiadau ar y neges, neu wedi llwytho ciplun ohoni. Os wyt ti'n digwydd bod yn gwybod lle neu phryd mae rhyw neges yn ymddangos, sydd ddim yn amlwg o'r teitl, gelli ychwanegu'r wybodaeth at y nodiadau ar dudalen qqq y neges. Mae pawb sy'n fodlon gwneud yn gallu dechrau ychwanegu at y tudalennau hyn ar ôl dod yn gyfarwydd â chyfieithu yma.
Mae'r cyswllt at y dudalen 'dewisiadau' (tab y newidiadau diweddar) yn y nodiadau (information about message.....) ar y neges uchod - gweler [1].