Sain siwr beth ddylen i gyfieithu!

Sain siwr beth ddylen i gyfieithu!

Heia Lloffiwr!
Diolch am dy neges ar fy nhudalen sgwrs. Fel y nodaist ti, dw i yn dueddol o neidio o'r naill brosiect i'r llall (wedi bod yn gweithio tipyn ar y Wiciadur yn ddiweddar) ond fy mhrif broblem gyda Translatewiki yw nad ydw i'n siwr beth yn union dylwn i fod yn cyfieithu. Am fod fformat y tudalenau ychydig yn wahanol i wicis arferol, dw i ddim 100% o beth sydd angen gwneud neu beth yw'r blaenoriaethau o ran cyfieithu. Pe bai modd i ti roi rhai dolenni at dudalennau sydd angen eu cyfieithu ar fy nhudalen sgwrs, galla i fwrw ati i'w gwneud yn ystod yr wythnos nesaf. Dw i ddim eisiau dy lethu a gwaith, ond bydden i wir yn gweld dolenni tebyg yn hynod ddefnyddiol. Hwyl am y tro, Pwyll (talk) 09:35, 20 October 2011 (UTC)

Pwyll (talk)09:35, 20 October 2011