Croeso

Fragment of a discussion from User talk:Pwyll

Mae rhywun newydd rhoi gwybod ar support ac ar FAQ am ffordd newydd o ddod o hyd i neges wyt ti am ei gyfieithu ar translatewiki.net, pan y gweli di ryw neges yn Saesneg ar Wicipedia/Wiciadur/ayb yr wyt am ei gyfieithu. Co'r disgrifiad fan hyn.

Lloffiwr (talk)20:19, 20 October 2011

Diolch am yr arweiniad. Dw i'n gweld transkatewiki yn dipyn mwy o labyrinth na'r wicis arferol, ond mater o gyfarwyddo a system newydd yw e, sbo... Gewn ni wekld shwt eith pethe!! Diolch am yr help unweaith 'to. Pwyll (talk) 06:56, 25 October 2011 (UTC)

Pwyll (talk)06:56, 25 October 2011

Dwi'n cytuno'n llwyr. Fe ges i drafferth ofnadw yn dysgu sut i weithio fan hyn. Ond credu di neu beidio, fe ges hyd yn oed mwy o ffwdan gyda'r gwefannau Omegawiki a CLDR! Oherwydd fy mod wedi cael trafferth dysgu defnyddio translatewiki.net fe ddechreuais dudalen o FAQs yma ond mae hwnnw'n hen erbyn hyn. Pan fydd amser gennyf gwnaf geisio ysgrifennu tudalennau help fan hyn. Os wyt ti am, gelli roi gwybod beth oedd yn peri trafferth i ti, er mwyn i fi ei gynnwys yn y tudalennau cymorth.

Lloffiwr (talk)12:43, 25 October 2011