Croeso

Fragment of a discussion from User talk:Pwyll
Edited by author.
Last edit: 20:40, 20 October 2011

Yr ateb pennaf i dy gwestiwn yw - beth bynnag sy'n mynd a^'th fri. Rho bip ar y rhestr prosiectau. Gelli fynd at y negeseuon drwy'r teclyn cyfieithu. Os wyt ti'n fodlon mynd i'r afael a^ Mediawiki yna'r rhai pwysicaf yw'r is-grwp 'Extensions used by Wikimedia - Main' o fewn 'Mediawiki extensions'. Os wyt ti'n gweld y 730 o negeseuon yn yr is-grwp hwn yn ormod o bwdin, gelli wasgu 'expand' ar 'Mediawiki extensions' a dewis un o'r grwpiau sydd wedi dechrau cael eu cyfieithu ond nag yw heb gyrraedd 100%, e.e. [1]. Tipyn yn llai o bwdin!

Mae nodiadau ar PLURAL yn Gymraeg i gael ar borth y Gymraeg.

Y nodau arbennig wrth droed y blwch golygu yn pallu gweithio ers rhai diwrnodau - i fi no - rhaid riporto hwn cyn hir neu fe fydd cyfieithu yn waith digon blin! Unrhyw broblem, mawr neu bach, rho wybod ac fe geisiaf ateb pan gaf gyfle.

Lloffiwr (talk)12:22, 20 October 2011

Mae rhywun newydd rhoi gwybod ar support ac ar FAQ am ffordd newydd o ddod o hyd i neges wyt ti am ei gyfieithu ar translatewiki.net, pan y gweli di ryw neges yn Saesneg ar Wicipedia/Wiciadur/ayb yr wyt am ei gyfieithu. Co'r disgrifiad fan hyn.

Lloffiwr (talk)20:19, 20 October 2011

Diolch am yr arweiniad. Dw i'n gweld transkatewiki yn dipyn mwy o labyrinth na'r wicis arferol, ond mater o gyfarwyddo a system newydd yw e, sbo... Gewn ni wekld shwt eith pethe!! Diolch am yr help unweaith 'to. Pwyll (talk) 06:56, 25 October 2011 (UTC)

Pwyll (talk)06:56, 25 October 2011

Dwi'n cytuno'n llwyr. Fe ges i drafferth ofnadw yn dysgu sut i weithio fan hyn. Ond credu di neu beidio, fe ges hyd yn oed mwy o ffwdan gyda'r gwefannau Omegawiki a CLDR! Oherwydd fy mod wedi cael trafferth dysgu defnyddio translatewiki.net fe ddechreuais dudalen o FAQs yma ond mae hwnnw'n hen erbyn hyn. Pan fydd amser gennyf gwnaf geisio ysgrifennu tudalennau help fan hyn. Os wyt ti am, gelli roi gwybod beth oedd yn peri trafferth i ti, er mwyn i fi ei gynnwys yn y tudalennau cymorth.

Lloffiwr (talk)12:43, 25 October 2011