Portal talk:Cy/Arddull cyfieithu

From translatewiki.net
Latest comment: 10 years ago by Lloffiwr in topic Arddull Iaith Botymau, Dolenni

Arddull Iaith Botymau, Dolenni

Mae'r defnydd o'r berfenw wedi'i sefydlu erbyn hyn fel yr arferiad ar fotymau a dolenni mewn systemau, meddalwedd a gwefannau yn y Gymraeg. Er bod rhai botymau a dolenni yn gweithredu fel gorchymyn i gyfrifiadur, rhaglen neu wefan, maent hefyd yn cynnig dewis i'r defnyddiwr. Yma ac ar Wicipedia, er enghraifft, er eu bod yn orchmynion i'r gwefan, y defnyddiwr sydd wir yn golygu, yn cadw ac yn gwylio tudalennau, e.e. islaw'r ffrâm golygu, mae'r botwm yn gywir: 'Cadw'r dudalen' a'r swigen drosto yn darllen 'Cadwch eich newidiadau'.

Dyma'r fath o newidiadau dw i'n awgrymu:

  • Cadwer -> Cadw
  • Gwylier y dudalen hon -> Gwylio'r dudalen hon
  • Ehanger -> Ehangu
  • Rhodder heibio -> Diddymu neu Canslo

—Preceding unsigned comment added by Cymrodor (talkcontributions) 16 December 2013

Trafod wedi dechrau ar Wicipedia. Lloffiwr (talk) 18:06, 5 January 2014 (UTC)Reply