Jump to content

Translating:Cyfieithu'r testunau

From translatewiki.net
This page is a translated version of the page Translating:Translating the messages and the translation is 100% complete.

Pan fyddwch chi'n dechrau cyfieithu'r testunau, cofiwch nad ydych chi'n cyfieithu'r union geiriau yn unig, rydych chi'n cyfieithu'r testunau a'r ystyr sydd ganddyn nhw. Felly, rydym yn awgrymu bod cyfieithwyr yn dod at ei gilydd a chymryd ymagwedd gofyn, nid dyfalu. Rydym hefyd yn annog gweinyddwyr cyfieithu i fod yn ymatebol i gwestiynau ac i groesawu cyfieithwyr newydd.

Ar gyfer ieithoedd heb lawer iawn o siaradwyr, pobl sydd newydd ddechrau defnyddio cyfrifiaduron a'r rhyngrwyd eu hunain, efallai bod y ffordd i sillafu geiriau neu'r eirfa ei hun yn dal i gael ei drafod. Serch hynny, dylai cyfieithwyr fod yn barod i fathu termau newydd – mae’n siŵr y bydd geiriau a chysyniadau heb eu cyfieithu i’w hiaith o’r blaen.

Dechrau arni

Cyn ichi ddechrau cyfieithu, gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu teipio a darllen yn eich iaith. Gallai hyn olygu gosod ffontiau ychwanegol a bysellau acen ar gyfer eich cyfrifiadur.

Dylech ddeall a rhoi egwyddorion craidd cyfieithu ar waith, fel cyfieithu'r ystyr yn hytrach na chyfieithu gair am air, wrth ddal i geisio bod mor agos â phosib at y testun ffynhonnell.

Byddwch chi'n dod ar draws cystrawennau anieithyddol fel newidynnau a chystrawen wici wrth gyfieithu. Dylech chi gydnabod pa rannau y dylid eu gadw a pham.

Cyfieithu, nid addasu

Y peth cyntaf yw llunio cyfieithiad sy'n cyfleu'r union ystyr y testun ffynhonnell. Nid yw hynny'n golygu y dylech creu cyfieithiad llythrennol, gair am air. Dylech geisio creu cyfieithiad mor naturiol â phosib. Peidiwch ag ychwanegu gwybodaeth annerthnasol, fformatio ychwanegol (lliwiau, maint y ffont), dolenni ychwanegol i dudalennau a all fodoli ai beidio ac unrhyw beth arall sydd ddim yng nghynnwys y testun ffynhonnell. Pwrpas hynny yw cadw'r rhyngwyneb rhagosodedig yn lân ac yn gadael addasiadau i weinyddwyr. Mae problemau cyffredin ymhlith cyfieithwyr yn cynnwys ceisio cysylltu â thudalennau sydd ddim yn bodoli (er enghraifft yn Wicipedia), cyfeirio at ychwanegynnau nad ydynt wedi'u gosod yn ddiofyn, neu ddefnyddio fformatio ychwanegol heb ei angen.

Canllaw cam wrth gam

Gwyliwch y fideo isod am fanylion yn y rhyngwyneb a sut i wneud y defnydd gorau ohonynt wrth gyfieithu. Mae isdeitlau ar gael trwy glicio ar y symbol CC.

Dogfennaeth testunau

Fel y sylwoch yn y fideo, efallai na fydd y testun ffynhonnell plaen yn ddigon i wneud cyfieithiadau da bob tro. Mae yna flwch cyd-destun a mwy o wybodaeth i gyfieithwyr ynghlwm â phob testun; dylech fwrw golwg arnynt i osgoi dryswch.

Cysondeb

Mae geirfaoedd ar gael ar gyfer rhai prosiectau, wedi'u cysylltu â disgrifiad y grŵp neu yn nogfennaeth cyfieithiadau. Mae'n bwysig bod cyfieithwyr yn defnyddio'r un derminoleg wrth gydweithio, ac yn defnyddio'r un cyfieithiadau. Edrychwch ar y geirfaoedd sydd ar gael, ac os nad oes geirfa ar gael, meddyliwch am ddechrau un. Mae'n syniad da rhoi diffiniad byr am bob term wrth greu geirfaoedd yn hytrach na dim ond roi cyfieithiadau. Gall y diffiniad helpu cyfieithwyr eraill (a chi yn y dyfodol) i ddeall a defnyddio termau'n well wrth gyfieithu, ac yn ymarfer da i wella cysondeb yn nhestunau ffynhonnell.

Nodweddion arbennig

Byddwch yn ymwybodol o nodweddion arbennig eich iaith — dylech fod yn ofalus wrth ymwneud â rhywedd, lluosog, atalnodi a gramadeg. Darllenwch y tudalennau hyn, gan eu bod yn cynnwys canllawiau hollbwysig sy'n gwneud eich cyfieithiad yn ddealladwy.

Paramedrau mewn testunau

Mae mynegiadau â symbol doler a rhif neu enw byr, fel $1, $2, $page, ayb. yn baramedrau. Byddan nhw'n cael eu disodli gan eiriau eraill wrth gael eu arddangos i ddefnyddwyr. Dylai ystyr $1 fod ar gael yn nogfennaeth y testun. (Os nad yw wedi'i disgrifio yno, gofynnwch ar y dudalen “Support”.)

Hynny yw, os yw testun yn dweud “Rydych chi'n golygu'r dudalen '$1'.”, yna bydd enw'r dudalen yn cymryd lle $1, ac efallai fe welwch “Rydych chi'n golygu'r dudalen 'Leonardo da Vinci'.”, “Rydych chi'n golygu'r dudalen 'Bubusara Beyshenalieva'.”, ayb.

Pan fyddwch chi'n cyfieithu neges gyda pharamedrau, rhowch y paramedr lle bynnag y mae'n ffitio yn eich iaith. Yn y testun Saesneg efallai y bydd paramedr ymddangos ar ddiwedd y testun, ond efallai yn eich iaith chi mae'n ffitio yn y canol neu yn y dechrau, rhowch hi yno.

Darllen pellach

Mae'r dudalen Canllawiau cyfieithu yn cynnwys mwy o fanylion am yr hyn i'w ystyried